CUMBRIA
Gwiriwch Eich Ffynonellau!
Eleni
cyhoeddwyd llyfr diddorol iawn o’r enw “Golwg Newydd ar yr Hen Ogledd”,
gan Glan George (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch). Y mae’n trafod pwnc hen
deyrnasoedd Brythonaidd y tiroedd sydd heddiw yng ngogledd Lloegr a de’r
Alban, a faint o’u hanes a’u diwylliant sydd wedi goroesi yno hyd y dydd
hwn. Gyda hynny mewn golwg, cyfeirir (ar dudalen 328) at ddwy ffynnon, sef “Ffynnon
y Santes Helen” ym mhentref Great Asby yn Cumbria (gweler y llun
uchod) a “Ffynnon Powdonnet”
ger Morland. Dyma a ddywed Glan George:
“I’r hen Geltiaid, roedd lleoedd gwlyb yn fannau
sanctaidd, fel y tystiai’r creiriau a daflwyd i lynnoedd fel Llyn Cerrig Bach.
Gyda thwf Cristnogaeth, diflannodd y mwyafrif o’r defodau oedd yn ymwneud â dŵr,
ond parchuswyd eraill i’w cynnal ar wedd newydd. Dyna a ddigwyddodd i rai o
ffynhonnau paganaidd Ardal y Llynnoedd, trwy newid eu henw a throi’r ddefod yn
ddefod
Gristnogol. Un enghraifft yw’r ffynnon a gysylltid â’r
dduwies Geltaidd Alauna ym mhentref
Great Asby. Wedi derbyn y ffydd, newidiwyd yr enw i ‘St Helen’s Well’,
felly nid syndod gweld mai eglwys y pentref oedd yn gyfrifol am adnewyddu’r
safle yn 2008.
“Mae’n debyg mai’r syniad bod gan y dŵr rhyw
briodoledd iachusol oedd yn gyfrifol am oroesiad
Ffynnon Powdonnet ger Morland er bod y cof am ragoriaethau’r dŵr
wedi pallu. Yn y ganrif ddiwethaf dywedir mai hen wraig o’r pentref oedd yn
gwarchod y safle, ond y mae’n derbyn mwy o sylw erbyn hyn. Ymddengys o
sillafiad yr enw mai ‘Pwll Dunawd’ oedd yr enw gwreiddiol ond ni wyddys pwy
oedd hwnnw. Dunawd oedd enw mab Pabo Post Prydain [sic] yn y chweched ganrif ond
yr oedd teyrnas Pabo ymhell tua’r gorllewin. Gwyddys o ganu Taliesin fod gan
Urien lys ar lannau afon Lyvennet ond gall y ffynnon fod yn llawer hŷn na
hyn. Pan ymwelais á’r safle beth amser yn ôl, yr oedd rhywun wedi gosod maen
hir gyda’r enw ‘Powdonnet’ wrth ymyl y ffynnon ac yr oedd tusw o gennin
Pedr wrth ei droed.”
Mae’r dyfyniad uchod yn ddiddorol, ond hefyd yn amlygu
rhai o’r anawsterau sy’n wynebu’r sawl a gais wybodaeth am ffynhonnau.
Mae’n wir y ceir ffynhonnell gref a pharhaus o’r enw “St Helen’s Well”
yn Great Asby, ac y ceir hefyd dduwies Geltaidd o’r enw Alauna sydd â mannau
wedi eu henwi ar ei hôl yn Llydaw, Ffrainc, Yr Alban a Lloegr, megis afon Aulne
yn Llydaw; caerau Rhufeinig Alaunia (Maryport a Kendal) yn Cumbria; afon Aln yn
Northumbria, ac efallai Allan Water yn yr Alban. Tenau, fodd
bynnag, yw’r dystiolaeth o blaid awgrym a wnaed (gan
G. Jones yn ei “Holy wells and the cult of St Helen” yn y cylchgrawn Landscape
History, 1986) bod cysylltiad uniongyrchol rhwng y dduwies hon â St
Helen’s Well yn Great Asby, a ffynhonnau Helen yn gyffredinol. Yr un mor
simsan yw’r goel bod a wnelo Ffynnon
Helen â duwies Geltaidd o’r enw “Elin”; a bod agos pob
ac unrhyw ffynhonnell ddŵr gerllaw neu o fewn
golwg unrhyw eglwys yn “ffynnon sanctaidd” (Cumberland and Westmorland
Herald, 26.1.2007). Pedr, nid Helen, yw nawddsant eglwys Great Asby.
Maen hir Powdonnet, a godwyd ym 1994 Ddim mor hynafol, felly!.
Felly
hefyd yn achos Ffynnon Powdonnet.
Crybwyllir yr enw “Powdonet” gyntaf ym 1637, ond nid oes sôn am
“Powdonnet Well” hyd 1859. Yn ôl erthygl yn y Cumberland
and Westmorland Herald 10.6.1999, nid yw dŵr y ffynnon byth yn pallu,
nac yn rhewi. Mab Pabo Post Prydyn, yn ôl yr hen achresi, oedd Dunawd, tad
Deiniol Sant ac ewythr Asaff a Thysilio: ond ni wyddom ymhle’n union yr oedd
teyrnas Pabo, ac nid yw’n amhosibl y bu ganddo gysylltiad â dyffryn
Llwyfenydd (Lyvennet).
Efallai’n wir mai o “Pwll Dunawd” y daw
“Powdonnet”, ac efallai mai Dunawd fab Pabo oedd hwnnw: ond yr un mor
debygol yw mai Dunawd neu Donnet arall roddodd ei enw ar y ffynnon. Bu
“Donatus” a ffurfiau arno megis Dunawd neu Dunwyd yn enw eithaf cyffredin,
nid un unig ymysg Brythoniaid ond hefyd ymysg
Gwyddelod a Normaniaid. Nid oes dim i gysylltu’r safle
ag unrhyw sant o'r enw “Dunawd”, ac fe gysegrwyd yr eglwys leol yn enw Sant
Lawrens.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 43 Nadolig 2017